Ioan 17:4-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Mi a'th ogoneddais di ar y ddaear; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i'w wneuthur.

5. Ac yr awron, O Dad, gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, â'r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd.

6. Mi a eglurais dy enw i'r dynion a roddaist i mi allan o'r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a'u rhoddaist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air di.

7. Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae'r holl bethau a roddaist i mi:

8. Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a'u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a'm hanfonaist i.

9. Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt.

10. A'r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a'r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt.

11. Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau.

12. Tra fûm gyda hwynt yn y byd, mi a'u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythur.

13. Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a'r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.

14. Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a'r byd a'u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o'r byd, megis nad ydwyf finnau o'r byd.

15. Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o'r byd, eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg.

Ioan 17