Ioan 17:2-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai efe iddynt fywyd tragwyddol.

3. A hyn yw'r bywyd tragwyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.

4. Mi a'th ogoneddais di ar y ddaear; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i'w wneuthur.

5. Ac yr awron, O Dad, gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, â'r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd.

6. Mi a eglurais dy enw i'r dynion a roddaist i mi allan o'r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a'u rhoddaist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air di.

7. Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae'r holl bethau a roddaist i mi:

8. Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a'u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a'm hanfonaist i.

9. Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt.

Ioan 17