16. O'r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o'r byd.
17. Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd.
18. Fel yr anfonaist fi i'r byd, felly yr anfonais innau hwythau i'r byd.
19. Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd.
20. Ac nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd hwynt:
21. Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo'r byd mai tydi a'm hanfonaist i.
22. A'r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy: fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un:
23. Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo'r byd mai tydi a'm hanfonaist i, a charu ohonot hwynt, megis y ceraist fi.