9. O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi:
10. O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni'm gwelwch i mwyach;
11. O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd.
12. Y mae gennyf eto lawer o bethau i'w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron.
13. Ond pan ddĂȘl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono'i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a'r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi.
14. Efe a'm gogonedda i: canys efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi.
15. Yr holl bethau sydd eiddo'r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o'r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.