Ioan 16:7-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw'r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a'i hanfonaf ef atoch.

8. A phan ddĂȘl, efe a argyhoedda'r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn:

9. O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi:

10. O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni'm gwelwch i mwyach;

11. O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd.

12. Y mae gennyf eto lawer o bethau i'w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron.

13. Ond pan ddĂȘl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono'i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a'r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi.

14. Efe a'm gogonedda i: canys efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi.

15. Yr holl bethau sydd eiddo'r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o'r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.

Ioan 16