Ioan 16:4-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r dechreuad, am fy mod gyda chwi.

5. Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti'n myned?

6. Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon.

Ioan 16