Ioan 16:22-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a'ch calon a lawenycha, a'ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.

23. A'r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i'r Tad yn fy enw, efe a'u rhydd i chwi.

24. Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.

25. Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae'r awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tad.

26. Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch:

27. Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw.

28. Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad, ac a ddeuthum i'r byd: trachefn yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad.

29. Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddameg.

30. Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw.

31. Yr Iesu a'u hatebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu?

32. Wele, y mae'r awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegid y mae'r Tad gyda myfi.

33. Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.

Ioan 16