Ioan 16:15-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Yr holl bethau sydd eiddo'r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o'r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.

16. Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad.

17. Am hynny y dywedodd rhai o'i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad?

18. Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd.

19. Yna y gwybu'r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â'ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch?

20. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a'r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd.

21. Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni'r plentyn, nid yw hi'n cofio'i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i'r byd.

22. A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a'ch calon a lawenycha, a'ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.

23. A'r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i'r Tad yn fy enw, efe a'u rhydd i chwi.

24. Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.

25. Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae'r awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tad.

26. Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch:

27. Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw.

28. Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad, ac a ddeuthum i'r byd: trachefn yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad.

29. Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddameg.

Ioan 16