Ioan 16:1-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi.

2. Hwy a'ch bwriant chwi allan o'r synagogau: ac y mae'r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a'ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw.

3. A'r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi.

4. Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r dechreuad, am fy mod gyda chwi.

5. Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti'n myned?

6. Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon.

7. Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw'r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a'i hanfonaf ef atoch.

8. A phan ddêl, efe a argyhoedda'r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn:

9. O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi:

10. O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni'm gwelwch i mwyach;

11. O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd.

12. Y mae gennyf eto lawer o bethau i'w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron.

13. Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono'i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a'r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi.

14. Efe a'm gogonedda i: canys efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi.

15. Yr holl bethau sydd eiddo'r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o'r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.

16. Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad.

17. Am hynny y dywedodd rhai o'i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad?

18. Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd.

19. Yna y gwybu'r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â'ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch?

20. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a'r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd.

Ioan 16