Ioan 15:6-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd allan megis cangen, ac a wywodd; ac y maent yn eu casglu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a losgir.

7. Os arhoswch ynof fi, ac aros o'm geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac efe a fydd i chwi.

8. Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, ar ddwyn ohonoch ffrwyth lawer; a disgyblion fyddwch i mi.

9. Fel y carodd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau: arhoswch yn fy nghariad i.

10. Os cedwch fy ngorchmynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.

11. Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn.

12. Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi.

13. Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion.

14. Chwychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi.

15. Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a'ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegid pob peth a'r a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i chwi.

Ioan 15