Ioan 15:18-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Os yw'r byd yn eich casáu chwi, chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o'ch blaen chwi.

19. Pe byddech o'r byd, y byd a garai'r eiddo; ond oblegid nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis allan o'r byd, am hynny y mae'r byd yn eich casáu chwi.

20. Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw'r gwas yn fwy na'i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a'ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.

21. Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm hanfonodd i.

22. Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod.

23. Yr hwn sydd yn fy nghasáu i, sydd yn casáu fy Nhad hefyd.

Ioan 15