Ioan 14:8-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni.

9. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a'm gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad?

10. Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.

11. Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain.

12. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a'u gwna, a mwy na'r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad.

13. A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab.

14. Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a'i gwnaf.

15. O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion.

16. A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol;

17. Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a'i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe.

18. Ni'ch gadawaf chwi yn amddifaid: mi a ddeuaf atoch chwi.

19. Eto ennyd bach, a'r byd ni'm gwêl mwy; eithr chwi a'm gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd.

20. Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau.

21. Yr hwn sydd â'm gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw'r hwn sydd yn fy ngharu i: a'r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a'i caraf ef, ac a'm hegluraf fy hun iddo.

22. Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw'r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i'r byd?

Ioan 14