Ioan 13:30-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Yntau gan hynny, wedi derbyn y tamaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi'n nos.

31. Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef.

32. Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a'i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a'i gogonedda ef yn ebrwydd.

33. O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a'm ceisiwch: ac, megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron.

34. Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd.

35. Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad i'ch gilydd.

36. A Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti'n myned? Yr Iesu a atebodd iddo, Lle yr ydwyf fi yn myned, ni elli di yr awron fy nghanlyn: eithr ar ôl hyn y'm canlyni.

37. Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, paham na allaf fi dy ganlyn yr awron? mi a roddaf fy einioes drosot.

38. Yr Iesu a atebodd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith.

Ioan 13