Ioan 13:3-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Yr Iesu yn gwybod roddi o'r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef, a'i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw, ac yn myned at Dduw;

4. Efe a gyfododd oddi ar swper, ac a roes heibio ei gochlwisg, ac a gymerodd dywel, ac a ymwregysodd.

5. Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i'r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y disgyblion, a'u sychu â'r tywel, â'r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu.

6. Yna y daeth efe at Simon Pedr: ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, a wyt ti'n golchi fy nhraed i?

7. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awron: eithr ti a gei wybod ar ôl hyn.

8. Pedr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda myfi.

9. Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylo a'm pen hefyd.

10. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll.

11. Canys efe a wyddai pwy a'i bradychai ef: am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll.

12. Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymryd ei gochlwisg, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi?

13. Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athro, a'r Arglwydd: a da y dywedwch; canys felly yr ydwyf.

14. Am hynny os myfi, yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd;

15. Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi.

Ioan 13