Ioan 13:25-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Ac yntau'n pwyso ar ddwyfron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe?

26. Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i'r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu'r tamaid, efe a'i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon.

27. Ac ar ôl y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys.

28. Ac ni wyddai neb o'r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho.

29. Canys rhai oedd yn tybied, am fod Jwdas a'r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Prŷn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl; neu, ar roi ohono beth i'r tlodion.

30. Yntau gan hynny, wedi derbyn y tamaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi'n nos.

31. Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef.

32. Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a'i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a'i gogonedda ef yn ebrwydd.

33. O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a'm ceisiwch: ac, megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron.

34. Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd.

Ioan 13