Ioan 13:10-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll.

11. Canys efe a wyddai pwy a'i bradychai ef: am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll.

12. Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymryd ei gochlwisg, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi?

13. Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athro, a'r Arglwydd: a da y dywedwch; canys felly yr ydwyf.

14. Am hynny os myfi, yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd;

15. Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi.

16. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid yw'r gwas yn fwy na'i arglwydd; na'r hwn a ddanfonwyd yn fwy na'r hwn a'i danfonodd.

17. Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.

18. Nid wyf fi yn dywedyd amdanoch oll; mi a wn pwy a etholais: ond fel y cyflawnid yr ysgrythur, Yr hwn sydd yn bwyta bara gyda mi, a gododd ei sawdl yn fy erbyn.

19. Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch mai myfi yw efe.

20. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a'r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.

21. Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y bradycha un ohonoch fi.

Ioan 13