Ioan 12:35-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ennyd y mae'r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio'r tywyllwch chwi: a'r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae'n myned.

36. Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.

37. Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo:

38. Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?

39. Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn,

40. Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â'u llygaid, a deall â'u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi eu hiacháu hwynt.

41. Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.

42. Er hynny llawer o'r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o'r synagog:

43. Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.

44. A'r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a'm hanfonodd i.

45. A'r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a'm danfonodd i.

Ioan 12