17. Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o'r bedd, a'i godi ef o feirw.
18. Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn.
19. Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tycio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.
20. Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl:
21. Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.
22. Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i'r Iesu.
23. A'r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn.
24. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer.
25. Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a'i cyll hi; a'r hwn sydd yn casáu ei einioes yn y byd hwn, a'i ceidw hi i fywyd tragwyddol.
26. Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a'i hanrhydedda ef.