Ioan 12:10-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Eithr yr archoffeiriaid a ymgyngorasant fel y lladdent Lasarus hefyd:

11. Oblegid llawer o'r Iddewon a aethant ymaith o'i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.

12. Trannoeth, tyrfa fawr yr hon a ddaethai i'r ŵyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerwsalem,

13. A gymerasant gangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

14. A'r Iesu wedi cael asynnyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig,

15. Nac ofna, ferch Seion: wele, y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol asyn.

16. Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt wneuthur hyn iddo.

17. Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o'r bedd, a'i godi ef o feirw.

18. Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn.

19. Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tycio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.

20. Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl:

21. Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.

22. Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i'r Iesu.

Ioan 12