Ioan 11:28-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat.

29. Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef.

30. (A'r Iesu ni ddaethai eto i'r dref, ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef.)

31. Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frys, ac yn myned allan, a'i canlynasant hi, gan ddywedyd, Y mae hi'n myned at y bedd, i wylo yno.

32. Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, a'i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw.

33. Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a'r Iddewon y rhai a ddaethai gyda hi yn wylo, a riddfanodd yn yr ysbryd, ac a gynhyrfwyd;

34. Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl.

35. Yr Iesu a wylodd.

36. Am hynny y dywedodd yr Iddewon, Wele, fel yr oedd yn ei garu ef.

37. Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith?

Ioan 11