1. Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref Mair a'i chwaer Martha.
2. (A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef รข'i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.)
3. Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae'r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf.
4. A'r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw'r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny.
5. A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a'i chwaer, a Lasarus.
6. Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod.
7. Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn.
8. Y disgyblion a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn?