Ioan 10:5-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid.

6. Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.

7. Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid.

8. Cynifer oll ag a ddaethant o'm blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.

Ioan 10