Ioan 10:40-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

40. Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen, i'r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno.

41. A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: ond yr holl bethau a'r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir.

42. A llawer yno a gredasant ynddo.

Ioan 10