35. Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, (a'r ysgrythur nis gellir ei thorri;)
36. A ddywedwch chwi am yr hwn a sancteiddiodd y Tad, ac a'i hanfonodd i'r byd, Yr wyt ti yn cablu; am i mi ddywedyd, Mab Duw ydwyf?
37. Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi:
38. Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd; fel y gwybyddoch ac y credoch, fod y Tad ynof fi, a minnau ynddo yntau.
39. Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef: ac efe a ddihangodd allan o'u dwylo hwynt.
40. Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen, i'r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno.
41. A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: ond yr holl bethau a'r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir.
42. A llawer yno a gredasant ynddo.