Ioan 1:2-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw.

3. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a'r a wnaethpwyd.

4. Ynddo ef yr oedd bywyd; a'r bywyd oedd oleuni dynion.

5. A'r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a'r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.

6. Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan.

7. Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef.

8. Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni.

9. Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a'r y sydd yn dyfod i'r byd.

10. Yn y byd yr oedd efe, a'r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a'r byd nid adnabu ef.

11. At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun nis derbyniasant ef.

12. Ond cynifer ag a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef:

13. Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw.

14. A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig‐anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.

15. Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.

Ioan 1