Ioan 1:16-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac o'i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras.

17. Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.

18. Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig‐anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a'i hysbysodd ef.

19. A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, Pwy wyt ti?

20. Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw'r Crist.

21. A hwy a ofynasant iddo, Beth ynteu? Ai Eleias wyt ti? Yntau a ddywedodd, Nage. Ai'r Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nage.

22. Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i'r rhai a'n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun?

23. Eb efe, Myfi yw llef un yn gweiddi yn y diffeithwch, Unionwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedodd Eseias y proffwyd.

24. A'r rhai a anfonasid oedd o'r Phariseaid.

25. A hwy a ofynasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na'r Crist, nac Eleias, na'r proffwyd?

26. Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi sydd yn bedyddio â dwfr; ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi yr hwn nid adwaenoch chwi:

27. Efe yw'r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o'm blaen i; yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid.

Ioan 1