Iago 2:19-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae'r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu.

20. Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw?

21. Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor?

22. Ti a weli fod ffydd yn cydweithio รข'i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio.

23. A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a Chyfaill Duw y galwyd ef.

24. Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig.

25. Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi'r cenhadau, a'u danfon ymaith ffordd arall?

26. Canys megis y mae'r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.

Iago 2