Iago 1:16-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Fy mrodyr annwyl, na chyfeiliornwch.

17. Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth.

18. O'i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o'i greaduriaid ef.

19. O achos hyn, fy mrodyr annwyl, bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint:

20. Canys digofaint gŵr nid yw'n cyflawni cyfiawnder Duw.

21. Oherwydd paham rhoddwch heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.

Iago 1