1. A mi yn ewyllysio iacháu Israel, datguddiwyd anwiredd Effraim, a drygioni Samaria: canys gwnânt ffalster; a'r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan.
2. Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a'u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb.
3. Llawenhânt y brenin â'u drygioni, a'r tywysogion â'u celwyddau.
4. Pawb ohonynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd, yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio.
5. Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a'i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin: estynnodd ei law gyda gwatwarwyr.
6. Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn: eu pobydd a gwsg ar hyd y nos; y bore y llysg fel fflam dân.
7. Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn, ac a ysant eu barnwyr: eu holl frenhinoedd a gwympasant, heb un ohonynt yn galw arnaf fi.
8. Effraim a ymgymysgodd â'r bobloedd; Effraim sydd fel teisen heb ei throi.
9. Estroniaid a fwytânt ei gryfder, ac nis gŵyr efe: ymdaenodd penwynni ar hyd‐ddo, ac nis gwybu efe.
10. Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb; ac er hyn oll ni throant at yr Arglwydd eu Duw, ac nis ceisiant ef.