Hosea 4:4-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â'r offeiriad.

5. Am hynny ti a syrthi y dydd, a'r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos, a mi a ddifethaf dy fam.

6. Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybodaeth, minnau a'th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dy Dduw, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd.

7. Fel yr amlhasant, felly y pechasant i'm herbyn: am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth.

8. Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon.

9. A bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a thalaf iddynt eu gweithredoedd.

10. Bwytânt, ac nis diwellir; puteiniant, ac nid amlhânt; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr Arglwydd.

11. Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith.

12. Fy mhobl a ofynnant gyngor i'w cyffion, a'u ffon a ddengys iddynt: canys ysbryd godineb a'u cyfeiliornodd hwynt, a phuteiniasant oddi wrth eu Duw.

13. Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl‐darth, dan y dderwen, a'r boplysen, a'r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: am hynny y puteinia eich merched chwi, a'ch gwragedd a dorrant briodas.

Hosea 4