Hosea 2:19-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A mi a'th ddyweddïaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau.

20. A dyweddïaf di â mi mewn ffyddlondeb; a thi a adnabyddi yr Arglwydd.

21. A'r dydd hwnnw y gwrandawaf, medd yr Arglwydd, ar y nefoedd y gwrandawaf; a hwythau a wrandawant ar y ddaear;

22. A'r ddaear a wrendy ar yr ŷd, a'r gwin, a'r olew; a hwythau a wrandawant ar Jesreel.

23. A mi a'i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear, ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd; ac a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi, Fy mhobl wyt ti: a hwythau a ddywedant, O fy Nuw.

Hosea 2