Hosea 14:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ymchwel, Israel, at yr Arglwydd dy Dduw; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd.

2. Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr Arglwydd: dywedwch wrtho, Maddau yr holl anwiredd; derbyn ni yn ddaionus: a thalwn i ti loi ein gwefusau.

3. Ni all Assur ein hachub ni; ni farchogwn ar feirch; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, O ein duwiau: oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.

4. Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad: canys trodd fy nig oddi wrtho.

5. Byddaf fel gwlith i Israel: efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megis Libanus.

6. Ei geinciau a gerddant, a bydd ei degwch fel yr olewydden, a'i arogl fel Libanus.

Hosea 14