Hosea 1:8-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A hi a ddiddyfnodd Lo‐rwhama, ac a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab.

9. A Duw a ddywedodd, Galw ei enw ef Lo‐ammi: canys nid ydych bobl i mi, ac ni byddaf i chwithau yn Dduw.

10. Eto bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr, yr hwn nis mesurir, ac nis cyfrifir: a bydd, yn y man lle y dywedwyd wrthynt, Nid pobl i mi ydych chwi, y dywedir yno wrthynt, Meibion y Duw byw ydych.

11. Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd, a hwy a osodant iddynt un pen; a deuant i fyny o'r tir: canys mawr fydd dydd Jesreel.

Hosea 1