Hebreaid 9:25-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Nac fel yr offrymai efe ei hun yn fynych, megis y mae'r archoffeiriad yn myned i mewn i'r cysegr bob blwyddyn, รข gwaed arall:

26. (Oblegid yna rhaid fuasai iddo'n fynych ddioddef er dechreuad y byd;) eithr yr awron unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun.

27. Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn:

28. Felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith, heb bechod, i'r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth.

Hebreaid 9