11. Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi, (oblegid dan honno y rhoddwyd y gyfraith i'r bobl,) pa raid oedd mwyach godi Offeiriad arall yn ôl urdd Melchisedec, ac nas gelwid ef yn ôl urdd Aaron?
12. Canys wedi newidio'r offeiriadaeth, anghenraid yw bod cyfnewid ar y gyfraith hefyd.
13. Oblegid am yr hwn y dywedir y pethau hyn, efe a berthyn i lwyth arall, o'r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu'r allor.
14. Canys hysbys yw, mai o Jwda y cododd ein Harglwydd ni; am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tuag at offeiriadaeth.
15. Ac y mae'n eglurach o lawer eto; od oes yn ôl cyffelybrwydd Melchisedec Offeiriad arall yn codi,
16. Yr hwn a wnaed, nid yn ôl cyfraith gorchymyn cnawdol, eithr yn ôl nerth bywyd annherfynol.
17. Canys tystiolaethu y mae, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.
18. Canys yn ddiau y mae dirymiad i'r gorchymyn sydd yn myned o'r blaen, oherwydd ei lesgedd a'i afles.
19. Oblegid ni pherffeithiodd y gyfraith ddim, namyn dwyn gobaith gwell i mewn a berffeithiodd; trwy yr hwn yr ydym yn nesáu at Dduw.
20. Ac yn gymaint nad heb lw y gwnaethpwyd ef yn Offeiriad:
21. (Canys y rhai hynny yn wir ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw: ond hwn trwy lw, gan yr hwn a ddywedodd wrtho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Ti sydd Offeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec:)
22. Ar destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn Fachnïydd.