8. Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo. Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo.
9. Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn a wnaed ychydig yn is na'r angylion, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni รข gogoniant ac anrhydedd; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn.
10. Canys gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddioddefiadau.
11. Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o'r un y maent oll. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr;