Hebreaid 13:5-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; gan fod yn fodlon i'r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith:

6. Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.

7. Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt.

8. Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd.

9. Na'ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd.

10. Y mae gennym ni allor, o'r hon nid oes awdurdod i'r rhai sydd yn gwasanaethu'r tabernacl i fwyta.

11. Canys cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i'r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i'r gwersyll.

12. Oherwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai'r bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i'r porth.

13. Am hynny awn ato ef o'r tu allan i'r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef.

14. Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl.

15. Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i'w enw ef.

16. Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.

Hebreaid 13