Hebreaid 12:2-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Gan edrych ar Iesu, Pen‐tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle'r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw.

3. Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau.

4. Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod.

5. A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y'th argyhoedder ganddo:

6. Canys y neb y mae'r Arglwydd yn ei garu, y mae'n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio.

7. Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu?

8. Eithr os heb gerydd yr ydych, o'r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion.

9. Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i'n ceryddu, ac a'u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw?

10. Canys hwynt‐hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a'n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfranogion o'i sancteiddrwydd ef.

11. Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef.

12. Oherwydd paham cyfodwch i fyny'r dwylo a laesasant, a'r gliniau a ymollyngasant.

13. A gwnewch lwybrau union i'ch traed; fel na throer y cloff allan o'r ffordd, ond yr iachaer efe yn hytrach.

14. Dilynwch heddwch â phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd:

15. Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth ras Duw; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer;

16. Na bo un puteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth‐fraint.

17. Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu'r fendith: oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi.

18. Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a thywyllwch, a thymestl,

19. A sain utgorn, a llef geiriau; yr hon pwy bynnag a'i clywsant, a ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt:

20. (Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid; Ac os bwystfil a gyffyrddai â'r mynydd, efe a labyddir, neu a wenir â phicell.

Hebreaid 12