Hebreaid 11:23-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Trwy ffydd, Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasant orchymyn y brenin.

24. Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo;

25. Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser;

26. Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau'r Aifft: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy.

27. Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig.

28. Trwy ffydd y gwnaeth efe y pasg, a gollyngiad y gwaed, rhag i'r hwn ydoedd yn dinistrio'r rhai cyntaf‐anedig gyffwrdd â hwynt.

29. Trwy ffydd yr aethant trwy'r môr coch, megis ar hyd tir sych: yr hyn pan brofodd yr Eifftiaid, boddi a wnaethant.

30. Trwy ffydd y syrthiodd caerau Jericho, wedi eu hamgylchu dros saith niwrnod.

Hebreaid 11