Hebreaid 11:14-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Canys y mae'r rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau, yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio gwlad.

15. Ac yn wir, pe buasent yn meddwl am y wlad honno, o'r hon y daethent allan, hwy a allasent gael amser i ddychwelyd:

16. Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych, hynny ydyw, un nefol: o achos paham nid cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy: oblegid efe a baratôdd ddinas iddynt.

17. Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac, pan ei profwyd: a'i unig‐anedig fab a offrymodd efe, yr hwn a dderbyniasai'r addewidion:

18. Wrth yr hwn y dywedasid, Yn Isaac y gelwir i ti had:

19. Gan gyfrif bod Duw yn abl i'w gyfodi ef o feirw; o ba le y cawsai efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth.

20. Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau am bethau a fyddent.

21. Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, a fendithiodd bob un o feibion Joseff; ac a addolodd â'i bwys ar ben ei ffon.

22. Trwy ffydd, Joseff, wrth farw, a goffaodd am ymadawiad plant Israel; ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn.

23. Trwy ffydd, Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasant orchymyn y brenin.

Hebreaid 11