Hebreaid 10:20-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy'r llen, sef ei gnawd ef;

21. A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw:

22. Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân.

23. Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi‐sigl; (canys ffyddlon yw'r hwn a addawodd;)

24. A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da:

Hebreaid 10