Hebreaid 10:13-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i'w draed ef.

14. Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio.

15. Ac y mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o'r blaen,

16. Dyma'r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a'u hysgrifennaf yn eu meddyliau;

17. A'u pechodau a'u hanwireddau ni chofiaf mwyach.

Hebreaid 10