Hebreaid 1:11-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Hwynt‐hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt‐hwy oll fel dilledyn a heneiddiant;

12. Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant.

13. Ond wrth ba un o'r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed?

14. Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?

Hebreaid 1