Haggai 2:10-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,

11. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Gofyn yr awr hon i'r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd,

12. Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg, ac â'i gwr a gyffwrdd â'r bara, neu â'r cawl, neu â'r gwin, neu â'r olew, neu â dim o'r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A'r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant.

13. A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw a gyffwrdd â dim o'r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A'r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan.

14. Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr Arglwydd; ac felly y mae holl waith eu dwylo, a'r hyn a aberthant yno, yn aflan.

15. Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o'r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr Arglwydd;

16. Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o'r cafn, ugain a fyddai yno.

17. Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd.

18. Ystyriwch yr awr hon o'r dydd hwn ac er cynt, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, ac ystyriwch o'r dydd y sylfaenwyd teml yr Arglwydd.

19. A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a'r pomgranad, a'r pren olewydd, ni ffrwythasant: o'r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.

20. A gair yr Arglwydd a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r mis, gan ddywedyd,

21. Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda, gan ddywedyd, Myfi a ysgydwaf y nefoedd a'r ddaear;

22. A mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd, ac a ddinistriaf gryfder breniniaethau y cenhedloedd; ymchwelaf hefyd y cerbydau, a'r rhai a eisteddant ynddynt; a'r meirch a'u marchogion a syrthiant, bob un gan gleddyf ei frawd.

23. Y diwrnod hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y'th gymeraf di, fy ngwas Sorobabel, mab Salathiel, medd yr Arglwydd, ac y'th wnaf fel sêl: canys mi a'th ddewisais di, medd Arglwydd y lluoedd.

Haggai 2