Haggai 1:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn yr ail flwyddyn i'r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd,

2. Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr Arglwydd.

3. Yna y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,

Haggai 1