Habacuc 1:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Y maent i'w hofni ac i'w harswydo: ohonynt eu hun y daw allan eu barn a'u rhagoriaeth.

8. A'u meirch sydd fuanach na'r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddiau yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a'u marchogion a ddeuant o bell; ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd.

9. Hwy a ddeuant oll i dreisio; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod.

10. A hwy a watwarant frenhinoedd, a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasglant lwch, ac a'i goresgynnant.

11. Yna y newidia ei feddwl, ac yr รข trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym yma i'w dduw ei hun.

Habacuc 1