Habacuc 1:4-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.

5. Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi.

6. Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar hyd lled y tir, i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt.

7. Y maent i'w hofni ac i'w harswydo: ohonynt eu hun y daw allan eu barn a'u rhagoriaeth.

8. A'u meirch sydd fuanach na'r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddiau yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a'u marchogion a ddeuant o bell; ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd.

9. Hwy a ddeuant oll i dreisio; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod.

10. A hwy a watwarant frenhinoedd, a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasglant lwch, ac a'i goresgynnant.

11. Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym yma i'w dduw ei hun.

12. Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O Arglwydd fy Nuw, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O Arglwydd, ti a'u gosodaist hwy i farn, ac a'u sicrheaist, O Dduw, i gosbedigaeth.

13. Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun?

14. Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt?

Habacuc 1