Habacuc 1:11-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym yma i'w dduw ei hun.

12. Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O Arglwydd fy Nuw, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O Arglwydd, ti a'u gosodaist hwy i farn, ac a'u sicrheaist, O Dduw, i gosbedigaeth.

13. Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun?

14. Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt?

15. Cyfodant hwynt oll â'r bach; casglant hwynt yn eu rhwyd, a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd: am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant.

16. Am hynny yr aberthant i'w rhwyd, ac y llosgant arogl-darth i'w ballegrwyd: canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a'u bwyd yn fras.

17. A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol?

Habacuc 1