Habacuc 1:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y baich a welodd y proffwyd Habacuc.

2. Pa hyd, Arglwydd, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi!

3. Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o'm blaen i; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson.

4. Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.

Habacuc 1