Genesis 9:20-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:

21. Ac a yfodd o'r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell.

22. A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i'w ddau frawd allan.

23. A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a'i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a'u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad.

Genesis 9